Y Grŵp Trawsbleidiol ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant
Dyddiad: 12/01/2016
Lleoliad: Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel
Yn bresennol:
Jocelyn Davies AC |
Cadeirydd |
Eleri Butler |
Prif Weithredwr Cymorth i Fenywod Cymru |
Karan Sanghera |
Cymorth i Fenywod Cymru |
Sion Sanders |
Cyngor Ffoaduriaid Cymru |
Anne Hubbard |
Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru |
Paul Lewis |
Comisiynydd Plant Cymru |
Richard Lewis |
Llamau |
Isobelle Morgan |
Hafan Cymru |
Sarah Thomas |
NFWI Cymru |
Elle McNeil |
Cyngor ar Bopeth Cymru |
Jim Stewart |
Cynghrair Efengylaidd Cymru |
Jackie Jones |
Cynulliad Menywod Cymru / BAWSO |
Berni Bowen-Thomson |
Cymru Ddiogelach |
Gwilym Roberts |
Relate Cymru |
Angharad Lewis |
Ymchwilydd Jocelyn Davies AC |
Cafwyd ymddiheuriadau gan:
Mark Isherwood AC |
|
Bethan Jenkins AC |
|
David Melding AC |
|
Johanna Robinson |
Survivors Trust Cymru |
Steve Bartley |
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru |
Phillip Walker |
The Survivors Trust |
Barbara Natasegara |
Cymru Ddiogelach |
Yr Athro Emma Renold |
Prifysgol Caerdydd |
Liz Newton |
Swyddfa Peter Black AC |
1. Cyflwyniad
Croeso gan Jocelyn Davies AC (Cadeirydd).
2. Dyfodol y Grŵp Trawsbleidiol ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant
Bydd Jocelyn Davies AC yn sefyll i lawr fel AC yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2016 ac ni fydd yn gallu parhau fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol. Mae Bethan Jenkins AC a Mark Isherwood AC wedi cael cais i gymryd drosodd fel cyd-gadeiryddion y Grŵp. Bydd Cymorth i Fenywod Cymru, fel ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol, yn gweithio gyda hwy a'u staff cymorth i ailsefydlu'r Grŵp Trawsbleidiol pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull.
Cytunwyd mai un o brif gyfrifoldebau'r Grŵp Trawsbleidiol yn y dyfodol fydd dylanwadu ar yr ymgynghoriad ynghylch cyhoeddi canllawiau statudol yn dilyn y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 drwy dynnu sylw at arferion da a gweithio i gynorthwyo dealltwriaeth ymhlith y rhai sy'n gyfrifol am gomisiynu ynghylch darpariaeth gwasanaethau arbenigol.
3. Cymorth i Fenywod Cymru: Blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod a materion sy'n wynebu gwasanaethau
Amlinellodd Eleri Butler, Prif Weithredwr Cymorth i Fenywod Cymru, flaenoriaethau ei sefydliad ar gyfer y flwyddyn i ddod:
· Rhoi'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ar waith
· Y broses ddrafftio ac ymgynghori barhaus ar gyfer canllawiau statudol 'Gofyn a Gweithredu' ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a darparu hyfforddiant
· Effaith y Gyfarwyddeb Ewropeaidd ar hawliau, cefnogi a diogelu dioddefwyr troseddau, yr oedd yn rhaid i Aelod-wladwriaethau ei rhoi ar waith erbyn Tachwedd 2015
· Gwella ac egluro strategaethau atal sylfaenol
Tynnodd sylw at y materion sy'n wynebu darpariaeth gwasanaethau yng Nghymru:
· Mae cyllid ar gyfer gwasanaethau arbenigol yn parhau i fod yn bryder
· Er gwaethaf diogelu cyllid Cefnogi Pobl yng nghyllideb 2016/2017 Llywodraeth Cymru, mae penderfyniadau ynghylch comisiynu gwasanaethau yn arwain at doriadau
· Mae gan y rhai sy'n comisiynu gwasanaethau ddiffyg dealltwriaeth ynghylch pwysigrwydd darpariaeth gwasanaethau arbenigol
· Mae rhai gwasanaethau yn wynebu perygl cau ac, er bod canllawiau statudol ar ddarparu gwasanaethau i fod i ddod i rym yn 2017/2018, mae'n bosibl y gallai llawer o wasanaethau arbenigol fod wedi'u colli erbyn y daw'r canllawiau i rym
4. Cytundeb i gynhyrchu adroddiad etifeddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol
Cytunodd y Grŵp Trawsbleidiol y bydd Cymorth i Fenywod Cymru yn cynhyrchu adroddiad etifeddiaeth i grynhoi cyflawniadau'r Grŵp ac i amlinellu argymhellion ar gyfer y Grŵp yn y dyfodol.
Cytunwyd ar bedair prif flaenoriaeth:
1. Menywod heb gefnogaeth arian cyhoeddus
2. Comisiynu gwasanaethau cymorth
3. Atal trais a chamdriniaeth
4. Pobl ag anghenion cymhleth
Bydd drafft cyntaf yr adroddiad yn cael ei ddosbarthu yng nghanol mis Chwefror.